Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddifyr gennyt eu clywed yn camseinio enwau syml ar ddynion a lleoedd, megis Vandyck, Jordaens, Brüssel, a Waterloo. Seiniant y rhai hyn a phob enw estronol fel pe baent enwau Saesneg heb ystyried nad oes un genedl arall yn seinio â, ê, î, ô, ú, j, r, fel y gwnânt hwy! Ac y mae Cymry crachddysgedig yn eu dilyn, er y byddent yn agosach i'w lle pe dilynent eu cydwladwyr hollol annysgedig. Er enghraifft, seiniant y j sydd yn niwedd fy enw personol, ac yn nechrau fy enw teuluol, fel petai hi dzh! A hynny heb un rheswm amgenach na bod y sain hon yn un annwyl a chyffredin gan y Saeson. Gresyn fod y Cymry mor chwannog i ddynwared cenedl sy'n gwneud popeth wrth ei mympwy ac nid wrth reol! Gan eu bod yn dewis cyfeiliorni gyda'r Saeson mewn pethau bychain, hawdd y gelli gredu na fyddai'n anodd ganddynt (er gwaethaf crefydd a chydwybod) fyned mor bell â chyfiawnhau anghyfiawnderau'r Saeson yn yr Aifft. Yr wyf yn meddwl yn fynych am y geiriau a ddywedaist wrthyf pan oeddwn yn cychwyn oddi cartref y waith gyntaf: "Y mae'r hyn sydd iawn bob amser yn amlwg ac yn syml i'r neb y byddo ei lygad yn syml; glŷn wrtho yn y bach ac yn y mawr, hyd yn oed pe bai pob plaid yn dy erbyn."

Yr wyf i eisoes yn medru digon o Gymraeg i