Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeall popeth a glywaf ac a ddarllenaf, eithr bydd yn rhaid imi aros yng Nghymru am rai misoedd eto cyn y gallaf lefaru'r iaith yn rhugl a chywir. Y mae hi, fel pob iaith hen a chywrain, yn bur anodd i'w dysgu'n berffaith, er ei bod yn un o'r rhai hawsaf i'w dysgu'n amherffaith. Y mae cannoedd o Saeson yng Nghymru ers blynyddoedd heb ei medru hyd yn oed yn amherffaith. Ni wn yn iawn pa un ai rhy falch, ai rhy ddiog, ai ynteu rhy ddiallu ydynt i'w dysgu. Odid na'th gynorthwya'r ffeithiau canlynol i farnu trosot dy hun: (1) Nid yw'r Saeson eto wedi ymddyrchafu digon i deimlo ei bod o werth iddynt ddysgu dim na fyddo yn elw ariannol iddynt. (2) Y maent yn chwannog i alw pob iaith na fedrant hwy mo'i dysgu yn iaith farbaraidd. Y maent yn hyn yn debyg i lwynog Aesop—yr hwn, wedi iddo neidio a neidio yn ofer at sypiau grawnwin mawrion aeddfed,' a aeth ymaith, gan ddywedyd, Surion, surion ydynt!' (3) Rhaid addef bod y Saesneg, o ran sain, ar ei phen ei hun ymhlith ieithoedd adnabyddus Ewrop, ac am hynny, y mae'n anodd anghyffredin i Saeson lefaru unrhyw iaith arall yn ddealladwy, ac yn anodd i bob cenedl arall lefaru eu hiaith hwythau. Dywedir mai yn yr oes hon, ac yn Neheudir Lloegr yn bennaf, yr aeth y Saesneg yn dafodiaith mor bŵl a chymhenllyd.