Proffwyda rhai y cyll hi'n fuan bob sain, oddieithr y seiniau sïol, os pery corff y genedl i ddilyn ysgoegynnod Llundain. Nid rhyfedd bod cathod y Cyfandir yn rhedeg i'r drysau pan elo Saeson heibio, canys y mae'n hawdd i greaduriaid amgenach na chathod feddwl nad ydynt wrth ymddiddan yn dweud dim ond ps, ps, ps, yn ddi-dor.
Er na bûm cyhyd yn dysgu Cymraeg ag y bûm yn dysgu Saesneg, eto yr wyf yn gallu ei hynganu a'i llythrennu'n gywirach o lawer. Yr oeddwn o'r blaen yn gynefin â phob sain sydd ynddi, oddieithr sain yr ll. Y mae hon yn fwy chwern na sain yr ll Ysbaeneg. Gorchfygais hon hefyd cyn cyrraedd Cymru, canys trewais, yn y trên rhwng Llundain a Chaerlleon, wrth deulu Cymreig yn cynnwys tad a merch a mebyn, ac wedi darfod i ysgytiad nerthol y cerbyd gyflwyno'r ferch imi yn bur ddiseremoni trwy ei thaflu drwyndrwyn yn fy erbyn, gofynnais iddi yn Saesneg fod mor garedig â'm hyfforddi i seinio'r Gymraeg. Atebodd hithau na fedrai hi mo'm hyfforddi, a'i fod yn amheus ganddi a fedrai neb arall chwaith, ond ei bod yn ewyllysgar iawn i ddweud ll gynifer o weithiau ag a fynnwn, ac y cawn innau ei dynwared. Hi a chwanegodd na chafodd hi, ac na bu raid iddi wrth gymaint â hynny o fantais. Tybed, meddwn innau, y medr