Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pob plentyn Cymreig seinio pob llythyren yn unig trwy ddynwared eraill, a heb ddim hyfforddiad?. Diau, meddai hithau, fod rhai plant yn myned yn bur hen cyn medru ynganu ll neu r, ond pwy all ddim wrth hynny?—Y rhieni, meddwn innau, y rhieni. Pan welont hwy y bydd eu plentyn yn methu ag iawn seinio rhyw lythyren trwy ddynwared eraill, dylent ddangos iddo pa fodd i ystumio ei enau a'i dafod. Os byddant yn rhy annysgedig—nid wyf yn cyfeirio atoch chwi, Mademoiselle—os byddant yn rhy annysgedig i wneud hynny, dylent beri i'w plentyn edrych i mewn i'w genau hwy pan seiniont lythyron anodd. Er nad wyf i mor ieuanc ag y bûm, ac nad yw fy mheiriannau llafar, oherwydd hynny, mor ystwyth â rhai plentyn, eto tyngaf wrthych, yn yr ysbryd mwyaf diymhongar, y gallwn adrodd y seiniau anhawsaf tan y nef pe cawn ysbïo genau'r sawl a'u gwnâi. Er mwyn praw, yr wy'n addo seinio'r l ddyblyg yn ebrwydd os goddefa'ch brawd bach imi chwilio ei enau (ei geg a ddylwn ddweud) tra byddo ef yn ei seinio. Gwnaeth y bachgennyn ymdrechiadau gorchestol i ufuddhau i orchymyn ei chwaer, ac i'm boddhau innau, ond bu'r cwbl yn ofer. Yr oedd gan y crwtyn bochgoch gymaint o ddawn i weled ochr ddigrif pethau fel na fedrai gadw'i dipyn ceg yn yr un ystum am