Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwarter munud. Bob tro yr osiai ddweud ll delai arno bang o chwerthin o'r iachaf ac o'r mwyaf heintus a glywaist erioed. Pa ieithoedd a chenhedloedd bynnag a gynrychiolid yn y cerbyd, yr oedd pob un yn deall ac yn teimlo oddi wrth chwerthin anorchfygol y bachgen. Ymunodd pawb ag ef yn ddifrifol, nes tywallt dagrau na ddaeth eu purach o ffynnon galar—pawb ond y tad. Gallwn i feddwl nad oes mo fath priodi a phlanta i sobri gŵr o Brydeiniwr. Ond dichon fy mod yn gwneud cam â'r gŵr hwn; feallai mai gweddw ydoedd, a'i fod wrth weled ei ferch yn ymddiddan mor rhydd â gŵr ifanc dieithr yn ofni y collai geidwades bresennol ei dŷ cyn y gallai ef gael o hyd i un well yn ei lle; neu, feallai mai hen ysgolfeistr ydoedd, wedi llwyddo trwy hir arferiad i atal ei dueddiadau chwerthingar er mwyn cadw ei ofn ar ei ddisgyblion direidus. Gweli, fy nhad, na bu dim neilltuol rhyngof i a'r lodes, onid e, buaswn wedi mynnu gwybod erbyn hyn pa beth yw galwedigaeth ei thad; pa faint o eiddo byw a marw sydd ganddo; pa sawl plentyn; pa sawl merch; os dwy neu chwaneg, pa un ohonynt yw ei anwylyd; a oedd ei gyndadau yn chwannog i ail-briodi; a oes ganddo frodyr neu chwiorydd di- briod neu ynteu di-blant â'u hamgylchiadau'n gyfryw byddai'n werth i ddyn ddeisyfu dydd eu marwol-