Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cenedl angherddgar yw'r Cymry. Y mae lliaws mawr ohonynt yn hoffi canu ac yn medru canu; ie, y mae rhai miloedd ohonynt yn mynnu canu pa un bynnag ai medru ai peidio. Diau y buasai'r Cymry yn genedl amgenach o lawer pe buasent yn llai cerddgar, neu o leiaf pe buasent yn ymhoffi llai mewn tonau lleddf. Yr wyf i'n credu bod Platon (Pleton neu Pleto y llysenwa Cymry'r pagan hwn) yn llygad ei le pan ddywedodd fod cerddoriaeth gwynfannus alarllyd yn anwreiddio dynion, ac felly yn eu hanghymhwyso i fod yn aelodau o wladwriaeth berffaith. Rhaid imi addef y bydd yr alawon a genir mewn addoldai Cymraeg yn fy meddwi â'u swyn, ond wedi'r elwyf adref, a sobri, a dechrau fy chwilio fy hun, byddaf yn canfod, er fy ngofid, fy mod wedi llesgáu a masweiddio, gorff ac ysbryd. Nid yw dyn byth mor analluog i wrthsefyll temtasiwn a phan fyddo'n myned allan o addoldy Protestannaidd neu Babyddol ar ôl bod yn gwrando cerddoriaeth synhwyrus. Er hynny, y mae'n debygol mai'r pryd hwnnw y bydd ef yn ei deimlo ei hun yn fwyaf crefyddol. Tybiaf i mai cyflwr darostyngedig y Cymry ydyw'r achos bod eu cerddoriaeth mor sentimental. Dylwn ddweud wrthyt fod eu halawon gwladol neu wladgarol yn ŵraidd ac yn iachus odiaeth. Os cyfansoddwyd y rhai hyn ar ôl dyddiau