Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ywain Glyndyfrdwy, rhaid bod y cyfansoddwyr yn bur annhebyg eu hysbryd i'r rhan fwyaf o'u cyd-wladwyr.

Y mae yng Nghymru bregethwyr nad oes mo'u rhagorach hyd yn oed yn Ffrainc, ond bydd pregethau gweddol y Ffrancod byw yn hwy na phregethau gorau'r Cymry, a hynny am fod mwy o ôl celfyddyd arnynt. Ymddengys bod siaradwyr ac ysgrifenwyr Cymru heb wybod neu ynteu heb gredu eto mai celfwaith yn unig sydd yn hirhoedlog. Celfyddyd yw popeth,' meddai Goethe; fe'i credodd llawer o'r Ellmyn, ac am hynny llwyddasant. Er hyn oll, gwelais gwyno mewn rhyw newyddiadur fod pregethwyr presennol Cymru, y rhai ifangaf ohonynt yn neilltuol, yn rhy goeth ac yn rhy gelfydd'! A glywaist ti erioed am ddyn pwyllog yn cwyno o achos gormod coethder, neu'n haeru bod celfyddyd yn taro'n erbyn natur berffeithiedig? Fe allai fod gan y cwynwr hwnnw ryw wirionedd dan ei ewin, ond gan nad oedd ef ei hun nac yn goeth nac yn gelfydd, ef a fethodd â chaffael geiriau cyfaddas i amlygu ei feddwl. Byddaf i mor fwyn a thybied mai 'anghoeth' a feddyliai wrth 'goeth,' ac mai anghelfydd' a feddyliai wrth 'gelfydd.' Os wyf i'n iawn dybied, yr oedd yntau'n iawn synied. A siarad fel llenor yn unig, diau