Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel hyn y diwedda un o'u hemynau, er mai teg addef na cheir mohono ymysg eu hemynau argraffedig: 'Hen fachgen braf yw'r lesu (For he's a jolly good fellow '), &c. Dywed rhai eu bod yn gwneud lles nid ychydig yn Lloegr. Diau eu bod, canys pa ddyn, neu pa gymdeithas, ar wyneb daear a ddichon wneud drwg digymysg? Pe'u gwelit ti, yr wyf yn credu y'th argyhoeddid bod tuedd gyffredinol y moddion a arferant yn hytrach yn niweidiol nag yn llesol, ac felly y bydd y niwed a barant yn fwy parhaus na'r lles a achlysurant. Sut bynnag, y mae'n anodd gennyf synied am Apostol y Cenhedloedd yn ymostwng i fabwyso tactics y Cadlyw a'r Gadlywes Booth.

Er fy mod i, fel pob dyn coeth, yn condemnio 'moddion gras' Byddin Iachawdwriaeth, eto'r wyf yn addef bod eisiau cyfundeb crefyddol rhyddach a mwy gwerinol yn Lloegr ac yng Nghymru hefyd. Gan fod y cyfundeb gorau yn myned yn ddarostyngedig i hierarchaeth neu glwb swyddogol erbyn y byddo'n drigain neu ganmlwydd oed, odid na fyddai'n dda i ymgodiad, neu ynteu i ymneilltuad mawr ddigwydd unwaith ym mhob oes, o leiaf. Bydd cyfundeb crefyddol yn colli ei nerth ysbrydol pan elo'n beiriant dyrys, costus, a respectable, yn ystyr Saesneg y gair. Diau mai'r cyfundeb mwyaf ei