beirianwaith a fydd yn llwyddo fwyaf yn allanol, ond gwyddost ti, sy'n gydnabyddus â'r haneswyr eglwysig mwyaf amhleidgar, fod yr hyn a ystyrir yn llwyddiant cyfundebol yn cydfyned yn gyffredin â dirywiad mewn crefydd bur a Christnogaeth seml. Yn feddyliol, syniad isel sydd gan y genedl Gymreig amdani ei hun. Hi a eddyf, Yn wir, yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf.' Y mae'r syniad hwn yn ei hatal rhag dyfeisio dim, rhag cychwyn dim ohoni ei hun, rhag edrych ar ddim trwy ei llygaid ei hun, a rhag barnu dim trosti ei hun. Digon ganddi hi ddilyn y dyn nesaf ati, sef y Sais. Ef yw ei cholofn niwl y dydd, a'i cholofn dân y nos. Pan symudo ef, symuda hithau; pan safo ef, saif hithau. Y llo hwn yw ei heilun hi, a chan y gwyddost pa fath un ydyw'r eilun, gelli ddyfalu pa fath rai ydyw'r eilun-addolwyr.
Ond yn grefyddol, y mae hi, fel y genedl Seisnig, yn genhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid.' O bob ymffrost, ymffrost crefyddol yw'r gwrthunaf. Bydd fy nhrwyn a'm genau'n crychu pan glywaf weddïwr o Gymro yn diolch i Dduw nad yw ef a'i gyd-wladwyr 'fel dynion eraill y tu hwnt i'r môr. O! na buasent, meddaf i. Ni fynnwn dyngu nad oes