mewn rhai parthau o Belg a Ffrainc gymaint o anfoesoldeb ag sydd yng Nghymru; ond yn sicr, y mae'r anfoesoldeb hwnnw'n llai amlwg, ac y mae cymaint sydd yn amlwg yn llai gwrthun. Y mae pob cenedl a welais i, oddieithr y Saeson, yn rhagori'n ddirfawr ar y Cymry mewn boneddigeiddrwydd, gonestrwydd, geirwiredd, a sobrwydd. Gellir gweld mwy o feddwon mewn pentref Cymreig ar un nos nag a welir yn hanner y Cyfandir mewn dwy flynedd. Y mae'n wir fod yma yn awr lai o lawer o feddwi cyhoeddus ar y Sabothau nag a fu, ond i atalfâu cyfreithiol ac nid i'w crefyddolder eu hunain y dylai'r Cymry ddiolch am hynny. Y mae'n rhyfedd gennyf i na all cenedl sydd yn ymffrostio cymaint yn ei Christnogaeth lywodraethu ei chwant am ddiodydd meddwol heb fyned ar ofyn y wladwriaeth.
Cydnebydd y Prydeinwyr tecaf a mwyaf cydnabyddus â'r Cyfandir fod Cyfandirwyr yn bucheddu'n fwy Cristnogaidd na Phrydeinwyr o fore dydd Llun hyd ganol nos Sadwrn, ond taerant fod Prydeinwyr yn bucheddu'n fwy Cristnogaidd na Chyfandirwyr ar ddydd Sul. Yn fwy Iddewaidd fe allai, ond nid yn fwy Cristnogaidd. Y maent yn wlad hon yn rhoi mwy o bwys ar hyd yr addoliad nag ar ei ddwyster a'i angerddoldeb. Y mae'r dyn