a gysgo mewn dau wasanaeth yn fwy crefyddol yn ei olwg ei hun ac yng ngolwg eraill hefyd na'r dyn a fyddo'n effro mewn un yn unig. Darganfûm un ffaith bwysig, sef, nad yw'r rhan fwyaf o'r Prydeinwyr, er eu holl siarad am y Saboth, yn addoli'n gyhoeddus nemor fwy na ninnau, hyd yn oed o ran amser. Nid yw'n ddim gan wragedd Cymreig aros gartref, a chadw eu morynion gartref i ddarparu cinio. Nid yw'n ddim gan y gwŷr a'r gwragedd aros gartref i gysgu tan bwys y cinio hwnnw hyd amser te. Yng Nghymru, cyfrifir bolera, cysgu, neu ymgecru yn llai o drosedd Sabothol na myned allan o greadigaeth gyfyng y saer maen i rodio'n llon yn awyr a than heulwen Duw. Byddwn ni wedi gorffen ein gwasanaeth crefyddol cyntaf cyn i grefyddwyr Cymru droi yn eu gwelyau, a phaham gan hynny y beiant hwy arnom am ddewis treulio corff y dydd o faes yn hytrach nag o fewn? Onid yr heol a'r parc yw tŷ'r Cyfandirwr pan fyddo hi'n hindda?
Y mae gennyf achos i feddwl, pe peidiai llywod— raethau gwladol ag ymyrryd ar y Saboth, y cedwid ef yn rhyddach yn y wlad hon nag mewn un wlad arall. Y mae'r rhan fwyaf o'i chrefyddwyr mor ariangar fel na allont edrych ar blant y byd hwn yn masnachu heb fynnu cael rhyw esgus i fasnachu eu hunain. Oni fyddi'n meddwl weithiau, fy nhad,