Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod llywodraethau gwladol yn rhoi gormod o gyfleustra i grefyddwyr i ragrithio, a rhy ychydig iddynt i ymwadu ac i aberthu?

Y mae Ymneilltuwyr Cymru yn Brotestaniaid tra gwrth-Babyddol; er hynny, y mae'n anodd i ddyn ar ei dro fel myfi ganfod llawer o wahaniaeth rhyngddynt a'r Pabyddion; canys y mae llawer o'u swyddogion hwythau, os nad o'u haelodau cyffredin hefyd, yn rhoi mwy o fri yn weithredol ar fân drefniadau a seremonïau amheus nag ar egwyddorion cyffredinol a thragwyddol. Nid ymgrymant i'r Forwyn Fair, ond ymgrymant yn addolgar i greaduriaid gwaelach na hi o lawer. Gwadant anffaeledig— rwydd y Pab o Rufain, ond cydnabyddant anffaeledigrwydd plaid neilltuol, yn enwedig os bydd y blaid honno yn cyfansoddi mwyafrif. Er hynny, y maent yn beio ar y mwyafrif a gollfarnodd Grist am eu bod yn ystyried bod croeshoeliad yn ormod o gosb am alw brenin yn gadno, a phenaethiaid y bobl yn ffyliaid, &c. Ar air yn unig y maent yn cydnabod 'hawl pob dyn i farnu trosto ei hun '; ac yn wir, y mae'n amheus gennyf a allent gydnabod hynny'n wirioneddol heb ymwrthod â Chyffesion Ffydd, neu ynteu ymrannu'n. fân gyfundebau aneirif. Ymddengys imi ei bod yn rhaid i Brotestaniaeth gyson a llwyr ddiweddu mewn unigoliaeth.