Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gofynnaist yn dy lythyr diwethaf a oes rhywrai heblaw Henry Richard yn cynrychioli Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Oes, liaws; eithr gan eu bod hwy oll yn perthyn i'r Hold-your-Peace Society, y maent yn ddynion rhy ymostyngar i'r chwip' weinidogaethol i wneud sôn amdanynt y tu hwnt i'r môr.

Byddit ti, weithiau, yn cyhuddo'r Belgiaid Ffrancaidd o ymddwyn yn anghyfiawn tuag at y Belgiaid Fflemig. Dyn a ystyrio wrthyt! Beth a ddywedit pe'n trinid ni, Fflemiaid, fel y trinir y Cymry gan y Saeson? Yng Nghymru y gelli weled anghyfiawnder yn ei nerth. Caiff Sais bob swydd yng Nghymru heb fedru dim Cymraeg, tra na chaiff Cymro un swydd werthfawr yn Lloegr heb fedru Saesneg. Pa beth a ddywedi yn erbyn y

Ffrancod yn awr? Nid addysgir iaith yr aelwyd a'r addoldy yn yr ysgolion gwladol, er bod y Cymry'n talu trethi fel y Saeson! Saesneg yw iaith y cyrtiau, y cynghorau, a'r gorsafoedd! Yn Saesneg y cyhoeddir pob hysbys— iad llywodraethol a chyfreithiol, er bod y Gymraeg yn gyfoethocach o dermau cyfreithiol na'r Saesneg. Yn Saesneg yn unig y mae'r rheolau a'r rhybuddion a geir yng ngherbydau'r trenau sy'n rhedeg trwy Gymru, tra ceir hwynt yn y Fflemeg, y Ffrangeg, a'r Isellmyneg yn y trenau sy'n tramwyo Belg. Eto y mae llai o angen am hyn ar y Fflandrysiaid nag