Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

maent hwy [yn cofio'r adnod] . . "Na chau safn yr ŷch sydd yn dyrnu." Nid er mwyn ychen y maes nacychen Rhydychen' yn unig yr ysgrifennwyd hyn, ond er mwyn pob creadur sydd yn dyrnu—yn llafurio er mwyn eraill, pa un bynnag ai clerigwr, ai pregethwr, ai blaenor, ai athro, ai politegwr, ai cerddor, ai bardd. Am ddyrnu ac nid am fod yn ŷch y dylid gwobrwyo pob dyn, onid e, fy nhad?

Er mai ychydig o lenorion ac o ddiwygwyr cymdeithasol a gwladol sydd yng Nghymru, ac er eu bod o achos eu prinder yn fwy anhepgor na degau o bregethwyr, eto nid oes dim yn sicr iddynt hwy ond erledigaeth yng nghanol eu hoes, esgeulus— tra yn niwedd eu hoes, a chlod ar ôl marw.

Os mynn fy nghyfaill Egmont gael o hyd i wraig brydferth heb chwilio llawer, deued i Gymru. Yma y mae'r merched mwyaf croenlan a welais i. Ond dealled ef eu bod hwy, at ei gilydd, yn fwy an— wybodus na merched y Cyfandir, ac yn falchach o lawer iawn. Diau y byddai merched y Cyfandir cyn falched â hwythau pe megid hwy a'u haddysgu yn gyffelyb. Addysg fas a diwerth iawn a gaiff merched Cymreig gan athrawesau Seisnig mewn teulu ac mewn gwest-ysgol (pension). Pan ddelont o'r gyfryw ysgol, odid byth y bydd rhieni parchus' yn perffeithio'u haddysg trwy eu hanfon am flwyddyn neu