Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwy i ffermdy neu westy i ddysgu gwaith tŷ; yn hytrach byddant yn eu cadw gartref i chwarae ar y piano, i ganu Beautiful Star, ac i frodio antimacassars.

Bydd rhai o'r cyfoethogion Cymreig yn cymryd arnynt fod yn Gymroaidd iawn ar lwyfan Eisteddfod (gwyddost pa beth yw Eisteddfod?), ond ni byddant yn cyflogi neb i addysgu eu plant yn iaith y brodorion. Ni chlywais addo ohonynt gynorthwyo un cyhoeddwr i argraffu ac i werthu'n rhad yr hen ysgrifau Cymraeg sy'n pydru mewn cistiau. Nid wyf chwaith yn meddwl iddynt godi cerflun na chofgolofn i Lywelyn nac i Ywain Glyn Dŵr, nac i un Cymro enwog arall. Diolched ysbryd Van Artwelde ac ysbryd Goswyn Verreyck nad yng Nghymru y'u ganwyd.

Y mae tai trefi Cymreig yn is ac yn fwy diaddurn hyd yn oed na thai trefi Seisnig. Nid oes un parc cyhoeddus ynglŷn â'r pentrefi. Ni welais mewn un parth goed ffrwythog rhwng y caeau, nac ar ochrau'r priffyrdd. Nid oes llwybr cyhoeddus trwy'r gerddi a'r perllannau. Yn wir, y maent wedi eu cau â gwaliau neu ynteu â gwrychoedd uchel. Gallwn i feddwl bod gwrychoedd a gwaliau mor angenrheidiol i gadw Prydeinwyr yn onest ag ydyw deddfau seneddol i'w cadw'n sobr.