Dylwn ddywedyd wrthyt fod yng Nghymru gymdeithasau dirwestol sy'n gwneud ymdrechion canmoladwy i sobri eu cydwladwyr. Gresyn hagen fod cynifer o'u haelodau yn eu niweidio eu hunain, a dirwest hefyd, trwy haeru pethau mor ddisail ac anniffynadwy. Nid digon ganddynt bregethu y dylai pawb yn wastadol ac ymhobman lwyr ymwrthod â phob diod feddwol. Diau y gallent brofi ei bod yn annichon i genhedloedd gwancus didoriad o fath y Prydeinwyr fod yn sobr heb fod yn llwyrymwrthodwyr; ac wedi profi hynny, gallent brofi ymhellach yn wyneb rheswm ac Ysgrythur ei bod yn angenrheidiol i bobl felly fod yn llwyrymwrthodwyr er mwyn bod yn sobr. Heblaw hynny, gallent brofi y dylai yfwr bychan beidio ag yfed dim pe gallent brofi y byddai hynny'n foddion i gadw eraill rhag yfed gormod. Ond ni fynn llawer o ddirwestwyr Cymru aros ar y tir diogel yna. Gwastraffant eu hamser a'u doniau i geisio profi bod y Beibl yn gorchymyn i bob dyn ymhobman edifarhau,' a llwyrymwrthod hefyd! Gwn i a thithau'n dda fod gwin cri yn troi'n feddwol ohono'i hun ymhen wyth neu naw diwrnod, ac eto, nid yw'r ffaith hon, na thystiolaethau hanesiol, yn atal rhai dirwestwyr Prydeinig rhag haeru na fyddai Crist a'i ddisgyblion ddim yn yfed gwin eplesedig. Yn ddiweddar dyfeis-
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/151
Gwedd