Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iodd masnachwyr rhyw ddiod a elwir yn rasol yn 'win anfeddwol' gogyfer â dirwestwyr eithafol Prydain Fawr; a hon a yfant mewn rhai mannau yn lle gwin gwirioneddol i gofio angau'r Gwaredwr. Dywedant mai diod debyg i hon oedd y gwin naturiol a'r gwin gwyrthiol a yfwyd yn y wledd briodasol yng Nghana Galilea. Yr wyf ar dir i ddywedyd wrthyt bod hynny cyn wired â bod yr adnod hon yn Efengyl Ioan: "Cato fi! Meistr Llywodraethwr-y-wledd, pa ddiod yw hon a osodaist ger fy mron i, a'm gwraig, a'm cyfeillion? Onid wyt yn ystyried mai mewn ystafell briodas yr ydym, ac nid mewn ystafell feddygol? A fynnit ti wneud yr holl wahoddedigion yn sâl? A fynnit ti ddwyn y pruddglwyf arnaf i a'm priod wrth ddechrau byw? Dos! brysia! pâr ddwyn gwin—y gwin sydd yn llawenhau; fel y tynner yr adflas oddi ar ein genau. Hai! gwydraid o ddwfr oer hefyd i'r cyfaill acw, i'w atal rhag llesmeirio. Hm! gwell gan bawb, a gwell i bawb, fuasai gwledda ar ddwfr glaw nag ar y sucan merfaidd hwn." Byddai'n annichon gennyt gredu ddarfod i'r Iesu ddifetha chwe llestraid o ddwfr glân trwy ei droi yn 'win anfeddwol,' pe gwyddit pa fath drwyth ydyw. Beth a fyddai iti anfon ychydig gostreleidiau o winoedd gorau'r Cyfandir fel y gallwyf ddangos i'm cyfeillion tra