Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dirwestol nad yw peint o win meddwol, os bydd yn ddigymysg, nac yn fwy penddarol nac yn fwy temtiol na pheint o 'win anfeddwol.'

Yr ydys yn teimlo gorthrwm y Llywodraeth Seisnig yn ddirfawr nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn yr ynys oll. Y mae'n anodd dyfalu pa fodd y mae'r amaethwyr a'r llafurwyr yn gallu byw; canys nid yw'n gyfleus iddynt hwy ysbeilio'r Eifftiaid a'r Indiaid yn enw gwareiddiad er mwyn chwanegu at ffrwyth llafur gonest. Gwyddost fod deddfau tirol y wlad hon yn wahanol i ddeddfau tirol pob gwlad arall. Y mae'n amheus gennyf a wyddost pa mor drymion a lluosog ydyw'r trethi a'r tollau. Gyda llaw, a elli di ddyfalu pa faint y mae'n rhaid i ddyn ei roi am sigâr a werthir yn Ffrainc a'r Almaen am ddimai? Dim llai na phedair ceiniog. Rhaid i'r llywodraeth gael dwy geiniog a dimai o bris pob wns o'r baco mwyaf cyffredin. Paham, tybed, y mae wystrys gymaint drutach ym Mhrydain nag ym Melg? Gwyddost y ceir yn y café harddaf ym Mrüssel ddeuddeg o wystrys, gwydraid o win, a bara ac ymenyn, am swllt a dimai. Ni chaut yn y bwyty mwyaf cyffredin yn Llundain ddeuddeg o wystrys yn unig, heb sôn am win, &c., am lai na deunaw ceiniog! Wystrys Belg!