Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XII

O ELBA I WATERLOO

Hwyrach y dywed rhai mai peth pur anghyson yw i mi, sy'n gennad hedd, dreulio amser i draethu am dair brwydr y lladdwyd ac y clwyfwyd ynddynt agos i gan mil o wŷr heb achos amgenach na bod Siôr y Trydydd a phenaduriaid uchelwaed eraill yn cenfigennu wrth ŵr a wnaed yn ymherodr trwy ewyllys y bobl ac nid trwy fraint genedigaeth. Ni cheisiaf i ymgyfiawnhau, ond addef a wnaf yn hytrach fod pob dyn yn euog o ryw anghysonderau neu'i gilydd, ac un o'm hanghysonderau i yw hyn: fod yn gas gennyf ryfel yn fy nghalon, yn enwedig ryfel y cryf yn erbyn y gwan; ac eto fod yn ddiddorol gennyf yn anad dim ddarllen hanes brwydrau rhwng byddinoedd disgybledig; ac yn ddiddorol gennyf rodio ar draws ac ar hyd y meysydd lle y cymerodd y brwydrau hynny le, ac ar hyd y ffyrdd y cerddodd yr ymladdwyr ar hydddynt i'r meysydd hynny.

Heblaw hynny, hanes Ffrainc o ddechrau'r Chwyldroad hyd ddiwedd teyrnasiad Napoleon ydyw'r hanes mwyaf swynol i mi o bob hanes, a hanes y cyfnod hwnnw ydyw'r unig hanes y gallaf