Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfieithu yw "conach Cors." Fe geisiodd Napoleon ganddynt adael iddo eistedd yn llonydd ar orsedd Ffrainc, ond ni fynnent hwy gymaint â derbyn ei genhadon. Penderfynu a wnaethant yn hytrach ddanfon miliwn o filwyr i ymosod ar Ffrainc o bob cyfeiriad, sef 260,000 o Ostriaid o dan lywyddiaeth Schwartzenberg; 170,000 o Rwsiaid o dan Barclay de Tolly; 150,000 o Brwsiaid o dan Blücher; 120,000 o bobl gymysg o dan Wellington, ynghyd â byddin— oedd eraill llai o'r Sbaen a'r Ital. Lloegr oedd yn dwyn y rhan fwyaf o'r baich yn y rhyfel hwn fel yn y rhyfeloedd o'r blaen, canys heblaw'r arian a wariodd hi i gasglu ac i gynnal ei byddin ei hun, hi a roddodd ddeuddeng miliwn o bunnau i gynorthwyo'r galluoedd eraill oedd mewn cynghrair â hi; a hynny, dealler, yn y flwyddyn 1815 yn unig. Y mae'r ddyled o fwy na chwe chan miliwn. yr aeth y deyrnas hon iddi yn ei hymdrech i adsefydlu brenhiniaeth etifeddol yn Ffrainc heb ei thalu eto, ac fe bery'r ddyled hon i fod yn orthrwm ar ein gwlad dros lawer o genedlaethau.

Ar ôl gweled nad oedd wiw iddo ddisgwyl am heddwch fe ymbaratôdd Napoleon i ryfel. Yr oedd ei anfanteision yn fawr, canys ar ôl ei gwymp yn Leipsig yr oedd popeth yn Ffrainc wedi myned i gyflwr didrefn. Yr oedd y wlad, o hir ymladd â