Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl Ewrop, wedi ei hysbyddu o filwyr cymwys i ryfel, ac yr oedd bellach fwy o hen filwyr Napoleon ym myddinoedd ei elynion nag yn ei fyddin ef ei hun. Yr oedd corff y genedl oddieithr y Fyddin wedi blino ar ryfel ac yn chwenychu heddwch. Yr oedd pleidwyr y frenhiniaeth eto'n lluosog yn y wlad ac yn dra gelynol i Napoleon, a chan fod y rhain yn Babyddion brwd, yr oeddent yn ei gasáu yn fwy o achos iddo ddwyn ymaith a charcharu'r Pab. Yr oedd pleidwyr y Weriniaeth hefyd agos mor wrthwynebol i'r Ymerodraeth ag oeddynt i'r Frenhiniaeth, ac er mwyn ennill cefnogaeth y rhain fe fu raid i Napoleon roi swydd uchel a phwysig i'r diegwyddor Fouché, yr hwn y buasai'n well gan yr Ymherodr ei saethu na'i anrhydeddu, am ei fod yn gwybod bod y Fouché hwn yn ymohebu'n fradwrus â Wellington a Metternich. Yr oedd amryw o'i hen swyddogion yn anfoddlon i'w wasanaethu o achos llw a wnaethant i'r Brenin Louis, ac nid oedd gan y milwyr fawr o ymddiried yn y rhan fwyaf o'r swyddogion a dorrodd eu llw er mwyn derbyn uchel swyddau drachefn o dan yr Ymherodr. Nid oedd neb yn amau nad oedd Ney yn hollol ddi- ragrith wrth gilio'n gyntaf oddi wrth yr Ymherodr at y Brenin, ac wrth gilio drachefn oddi wrth y Brenin at yr Ymherodr; ond yr oedd yr ymdeimlad