Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i anwadalwch a'i anghysondeb wedi effeithio cymaint ar ei ymennydd ef ei hun fel y barnodd Napoleon hyd y funud olaf nad oedd yn ddiogel iddo ymddiried un rhan o'r fyddin i Ney yn yr ymgyrch bresennol. Er gwaethaf y rhwystrau hyn. ac eraill, fe wnaeth Napoleon bethau rhyfedd yng nghorff y byr amser a gafodd i ymbaratoi; canys. erbyn y ddeuddegfed o fis Mehefin yr oedd ganddo 250,000 o filwyr yn barod i ryfel ar gyffiniau Belg,. yr Almaen, yr Ital, a'r Sbaen. Ysywaeth, fe fu raid iddo ddanfon trigain mil o'r rhain i ddarostwng gwrthryfel a godasai'r Brenhinwyr yn y rhan o Ffrainc a elwir La Vendée. Dyma'r gyntaf o'r aml anffodion y cyfarfu Napoleon â hwynt yn ei hynt anffortunus i Belg. Oni buasai'r gwrthryfel hwn, fe fuasai'r fyddin Ffrengig oedd dan ei arweiniad ef yn fwy na'r gryfaf o'r ddwy fyddin wrthwynebol oedd yn sefyll agosaf i Ffrainc. Yn lle bod ganddo gan mil a hanner o filwyr yn croesi'r cyffiniau i Belg, nid oedd ganddo mwyach prin gant a chwarter o filoedd. Y mae'n wir fod y nifer hwn yn fwy na digon yn llaw Napoleon i orchfygu Blücher a Wellington ar wahân; ond pe buasai'r ddau hyn yn cyfuno eu byddinoedd ynghyd, yr oedd yn amheus, a dywedyd y lleiaf, a allesid eu gorchfygu yn yr amgylchiadau presennol; canys rhaid cofio nad oedd