Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Napoleon ei hun mo'r dyn egnïol a fuasai cyn colli ei iechyd yn Rwsia, ac nad oedd ei fyddin chwaith ddim cystal ag y buasai hi gynt, ac nad oedd ganddo mwyach gynifer o swyddogion medrus ag a fuasai ganddo unwaith. Yr oedd Berthier, sgrifennydd ei orchmynion a phennaeth ei osgordd, wedi cefnu arno; felly hefyd yr oedd ei frawd-ynghyfraith Murat, pennaeth ei farchoglu; ac yr oedd Mortier, pennaeth ei warchodlu, wedi clafychu ar y ffordd. Yr oedd absenoldeb Mortier yn Waterloo agos mor bwysig ag absenoldeb Grouchy.

Er y byddai'n ormod dywedyd bod gan Blücher gystal milwyr ag oedd gan Napoleon, eto yr oedd ganddo y waith hon filwyr mwy profedig. Yr oedd milwyr Wellington ychydig yn llai eu nifer ac yn fwy anghyfartal eu gwerth na milwyr Blücher. Tramorwyr oedd y rhan fwyaf ohonynt o lawer; ac yr oedd y rheini oll, oddieithr yr Hanoferiaid, wedi bod yn ymladd am dymor o dan Faner Ffrainc. Bu hyn yn gymorth nid bychan iddynt i ymladd yn erbyn y Ffrancod yn y rhyfel hwn. Yr oedd yr Hanoferiaid hefyd yn filwyr deallus a phrofedig, canys yr oeddynt hwythau gan mwyaf wedi bod yn ymladd o dan Wellington yn y Sbaen. Yr oedd y bumed ran o'r fyddin oedd gan Wellington yn Belg yn Frytaniaid a Gwyddelod, ac er mai dynion