Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anneallus ac anfoesol wedi eu cymryd o blith gwehilion y bobl oedd y rhain agos i gyd, eto yr oedd Wellington trwy ddisgyblaeth lem wedi eu gwneuthur yn ymladdwyr gwych. Yr oeddynt yn barod i ryfela yn erbyn pob gelyn oddieithr y cnawd a'r diafol, ac nid oedd arnynt ddim ofn marw cyhyd ag y caent ddigon o gigfwyd a chwrw a chysgu tra byddent yn fyw.

Cant a chwech o filoedd oedd nifer y milwyr oedd gan Wellington yn barod i gyfarfod â Napoleon. Ac arfer ffigurau crynion, dyma eu nifer yn ôl eu cenedl: 50,000 o Ellmyn, 29,000 o Fatafiaid (Is- Ellmyn) a Belgiaid, a 21,000 21,000 o Brydeiniaid a Gwyddelod. Fe welir felly mai ffôl o beth yw galw byddin Wellington yn fyddin Seisnig cymhwysach o lawer fyddai ei galw'n fyddin Ellmynnig; ie'n wir, yn fyddin o Ellmyn y dysgesid y rhan fwyaf ohonynt i ryfela gan Napoleon ei hun. Fe fu miloedd lawer o Brwsiaid hefyd yn ymladd unwaith o dan Faner Ffrainc, ond gwybydder nad Ellmyn yw'r Prwsiaid o ran gwaed na chymeriad, er eu bod ers talm o amser bellach yn siarad iaith yr Ellmyn.

Gair byr eto am y tri maeslywydd yn y rhyfel hwn. Yr oedd Blücher erbyn hyn yn ŵr penllwyd deuddeg a thrigain oed, ac er ei fod yn gweithio'n galed yn amser rhyfel, ac yn pechu'n galed yn amser