heddwch, eto yr oedd o'n parhau i fod mor heini ac egnïol a'r llanc iachaf yn ei fyddin. Dyn gwrol hyd at fod yn ddibris ydoedd o. Efô, yn wir, oedd yr unig gadlywydd yn Ewrop nad oedd arno ddim o ofn Napoleon. Er i hwn roi curfa dost iddo lawer gwaith, eto nid oedd modd ei ddychrynu na'i ddigalonni. Yr oedd ei ddull rhydd a thadol yn ei wneud yn annwyl gan ei filwyr, ac nid oedd neb â chanddo gymaint o ddawn ag ef i danio eu hysbryd. Ond os Blücher oedd calon a llaw byddin Prwsia, Gneisenau oedd ei hymennydd, ac yr oedd Blücher ei hun yn ddigon gonest i addef hynny; canys pan oedd o unwaith mewn cyfeddach ym Merlin, ef a ddywedodd wrth ei gymdeithion, "Mi a wnaf yn awr beth na all neb ohonoch chwi ei wneud, canys chwi a'm gwelwch yn cusanu fy mhen fy hun," a phan oeddynt yn rhyfeddu pa fodd y gallai wneud y fath beth, ef a gododd ac a roes gusan i'w gyfaill Gneisenau, gan ddywedyd, "Dyma fy mhen i." Bryd arall, pan ddywedwyd wrtho fod Athrofa Rhydychen yn bwriadu ei raddio yn Ddoethor, fe atebodd yntau, "O'r gorau; ond os mynnant fy ngwneud yn Ddoctor, hwy a ddylent wneud Gneisenau yn ddrogydd (druggist); canys os mai myfi sy'n rhoddi'r pelennau, efô sy'n eu gwneuthur."
Yr oedd y Maeslywydd Wellington yn ddyn cwbl