Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhes flaenaf o gadlywyddion, na chwaith gyda Turenne a Marlborough yn yr ail res, ond y mae agos pawb yn barod i'w osod gyda Ffredrich Fawr a Moltke ar ben y drydedd res.

Y mae'n hysbys nad oedd Wellington, o achos oeredd ei natur, ddim mor hoff gan ei filwyr a'i swyddogion ag oedd Napoleon a Blücher; er hynny, yr oedd ganddynt barch mawr iddo, a llawer iawn o ymddiried ynddo.

Odid na welodd pob un ohonoch ddarlun ohono o'i ysgwyddau i fyny. Y dyn tebycaf a fu erioed i John Elias, os nad yw darlun John Elias yn un dychmygol ac anghywir fel y darlun genethig a wnaed o Williams, Pant-y-celyn. Pen hirgul a thalcen cyfyng; llygaid pŵl yn edrych yn union ar eu cyfer; arleisiau isel a bochgernau uchel; trwyn mawr crwm fel trwyn Rhufeiniwr, a gên oedd yn hwy na'i drwyn. Ei enau oedd yr unig ran o'i wyneb oedd yn weddol Roegaidd. Y mae'r holl bethau hyn gyda'i gilydd yn dangos bod ganddo ewyllys gref a chydwybod fawr, ond ei fod yn pallu mewn crebwyll a chydymdeimlad; fod ganddo fwy o ddawn i ddirnad nag i amgyffred; hynny ydyw, fod ei feddwl yn hytrach yn gryf nag yn eang. Ar air, y mae'r wyneb yn peri ichwi synio'n dda am y dyn; ond nid oes ynddo ddim swyn na dim