Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dirgelwch—dim i'ch tynnu i syllu arno'n ddi-baid fel ar wyneb Napoleon. Yr ydych yn gweled y cwbl sydd ynddo ag un drem, ac yna'n myned rhagoch at eich gorchwyl gan ddywedyd mai Gwyddel gwych oedd Wellington.

Hwyrach y byddai'n fuddiol imi chwanegu mai yn yr un flwyddyn â Napoleon y ganed ef, ac mai mewn ysgol filwrol yn Ffrainc yr addysgwyd yntau'n bennaf; ond ni ragorodd o mewn dim heblaw gwybodaeth o'r Ffrangeg. Dyn go ddwl y cyfrifid ef yn ei ieuenctid, ond fe gyfrifid ei frawd Richard yn ddyn disglair iawn. Oni buasai i hwn, trwy ei fawr ddylanwad yn y Llywodraeth, ddyrchafu ei frawd iau i swydd anrhydeddus yn y Fyddin, fe fuasai Arthur, Duc Wellington, wedi gadael ei wlad mewn digalondid, a threulio'i fyd fel masnachwr yn yr Amerig. Fe ddylai llwyddiant Wellington beri cysur i bob bachgen pendew.

Am Napoleon, ni ellir dweud ei fod ef mor gydwybodol â Wellington, nac mor onest â Blücher chwaith; ond o ran ei deithi meddyliol yr oedd o gymaint uwch na hwynt—hwy ag ydyw'r bardd na'r prydydd. Ni allasai un o'r ddau hyn orchfygu tair rhan o bedair o holl Ewrop, a'u cadw am gyhyd o amser dan ei droed. Ni allasai un ohonynt wneud ei wlad mor waraidd ac mor llwyddiannus â Ffrainc