Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ystod yr amser pan oedd Napoleon yn bennaeth y Weriniaeth ac yn bennaeth yr Ymerodraeth. Ni allasai ac ni fynasai un ohonynt hwy roddi i'w wlad ddeddfau mor syml ac mor deg â'r rhai sy'n sgrifenedig yn y Code Napoléon. Ni allasai un ohonynt chwaith, heb ymddrysu, ymddiddori ymhob rhyw beth yr oeddid yn ei ddysgu, yn ei ddyfeisio, ac yn ei wneuthur yn ei wlad ei hun ac ym mhob gwlad arall. Ond er bod Napoleon yn ddyn mawr, yr oedd ynddo gryn lawer o'r plentyn hefyd; neu'n hytrach, o eneth wedi ei difetha gan ei mam. Gwên angel oedd ganddo fo pan fyddai fo'n gwenu, a chuwch cythraul oedd ganddo pan fyddai fo'n cuchio. Yr oedd ei wyneb cyn ystwythed â maneg; ac fe ellid darllen arno ei deimladau o bell. Yr oedd o'n rhy dymherog ac yn rhy sydyn ei symudiadau i ymddangos yn urddasol bob amser ac ymhobman. Er hyn oll, yr oedd y fath swyn yn ei olwg ac yn ei lais fel yr oedd o'n gwirioni ei filwyr; ac fe gyfrifid ei bresenoldeb ef yn eu plith yn gyfartal â deugain mil o wŷr. Er ei fod yn ddiofal iawn am fywyd ei filwyr, eto'r oedd o'n bur ofalus am eu cysur a'u llwyddiant; ac fe daera rhai mai o achos iddo ymdroi gormod i ymweled â'r clwyfedigion. ar faes Ligny y collodd o'r frwydr yn Waterloo. Y mae'n anodd iawn credu y buasai fo mor garedig gan ei filwyr