Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pe buasai fo mor ddideimlad ag y dywed rhai ei fod. Pan fyddai fo'n dyfod i'r golwg, nid peth anghyff— redin o gwbl fyddai gweled rhywbeth tebyg i'r hyn a welwyd ar faes Waterloo, sef milwr clwyfedig â'i fraich yn hongian gerfydd un neu ddau o'r gewynnau, ac yntau'n ei thynnu ymaith oddi wrth ei gorff, ac yn ei thaflu i fyny i'r awyr gan lefain, 'Byw byth fo'r Ymherodr!

Y mae'n sicr fod pob un ohonoch wedi gweled darlun o Napoleon; ond a welsoch chwi ddarlun da ohono? Os gwelsoch, nid anghofiwch mono byth. Dyn bychan o gorffolaeth, ac iddo ben mawr a gwddf byr. Go denau pan oedd yn ieuanc, a go dew yn ganol oed. Wyneb moel, clasuraidd ei doriad, yn dangos ei fod yn hanfod o'r hen Roegiaid. Pryd gwelw, ac arno wawr felynaidd. Talcen uchel a llydan, a'i waelod yn ymdaflu allan dros ddau lygad llawn—dau lygad oedd weithiau'n befr ond nid yn deryll; ac weithiau braidd yn gibog ond nid yn llym chwaith, eithr hytrach yn ddwys, ac fel pe buasent yn edrych ar bawb ar yr un pryd, ac yn cyniwair trwy'r ddaear a thrwy amser, draw, draw, i ber— feddion tragwyddoldeb. Trwyn syth, heb fod yn fain nac yn drwchus; a gwefusau lluniaidd odiaeth fel pe baent wedi eu naddu â chŷn Phidias. Ar air, yr oedd o'n gyfryw ddyn, fel pan welid ef yn myned