heibio, y dywedai mamau'r Cyfandir wrth eu plant, Wele'r dyn," neu "Dacw fo." Nid oedd raid i neb ddywedyd, "Wele'r Ymherodr," neu "Dacw Napoleon."
Pan oedd o'n ieuanc yn yr ysgol nid oedd o'n ddwl nac yn ddisglair chwaith. Mewn mesuroniaeth a hanesyddiaeth yn unig yr oedd o'n rhagori. Fe wyddai ei athrawon bod ynddo lawer o allu cuddiedig, ond gan ei fod yn llencyn ymgilgar a thawedog, fe fuasai'n rhyfedd iawn gan ei gyd— ysgolheigion glywed rhywun yn proffwydo mai Bonaparte bach o Ynys Cors fyddai, cyn pen ychydig flynyddoedd, y gŵr enwocaf yn yr holl fyd.
Cyn imi ymdroi i sôn am y tri maeslywydd yn rhyfel byr y flwyddyn 1815, mi a ddywedais fod Napoleon wedi gyrru byddinoedd i amddiffyn Ffrainc o du'r de a'r dwyrain, ac wedi dwyn ei fyddin ogleddol, sef ei brif fyddin, hyd yn agos gyffiniau Belg erbyn y deuddegfed o fis Mehefin. Ef a wnaeth hyn yn gyflym ac yn ddirgel odiaeth, fel na wyddai Blücher a Wellington pa bryd nac ymha fan y croesai fo'r cyffiniau er mwyn ymosod arnynt. Yn wir, yr oedd yn anodd ganddynt gredu y beiddiai fo ymosod arnynt o gwbl hefo byddin oedd agos yn llai o'r hanner na'u byddinoedd hwy; ond os gwnâi o hynny, yr oedd Wellington yn barnu