Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai ymosod a wnâi o'n gyntaf ar ei fyddin ef yng ngogleddbarth Belg, a Blücher yntau'n barnu mai ymosod a wnâi o'n gyntaf ar ei fyddin ef yn neheu— barth Belg. Ond nid oedd Napoleon yn bwriadu gwneud y naill beth na'r llall, na dim arall a fyddai'n foddion i wthio'r naill fyddin i freichiau'r llall. Ei fwriad ef yn hytrach oedd rhuthro ar y fan lle yr oedd asgell aswy byddin Wellington yn ym gyffwrdd ag asgell dde byddin Blücher, er mwyn eu gwahanu oddi wrth ei gilydd, ac yna ymosod hefo'r rhan fwyaf o'i fyddin ar y Prwsiaid, tra byddai fo a'r rhan leiaf o'i fyddin yn atal Wellington rhag eu cynorthwyo hwynt; ac yna ar ôl gorchfygu Blücher, troi a dinistrio Wellington—oni lwyddai hwn i ffoi rhagddo mewn pryd. Er mwyn cwblhau'r cynllun hwn fe ddarfu i Napoleon ar fore'r pymthegfed o Fehefin groesi'r afon Sambre gyferbyn â Charleroi, ac o Charleroi ef a arweiniodd gorff ei fyddin tua'r gogledd-ddwyrain yng nghyfeiriad Namur lle'r oedd pencadlys Blücher; ac a yrrodd adran ohoni o dan lywyddiaeth Ney tua'r gogledd yng nghyfeiriad Brüssel lle'r oedd pencadlys Wellington, er mwyn iddo ef a Ney feddiannu'r groesffordd fawr sy rhwng Sombreffe a Quatre Bras, ac felly, dorri'r cymundeb rhwng Blücher a Wellington. Yr ydys yn cydnabod bod cynllun