Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Napoleon a'i holl gyfuniadau cyffredinol y rhai gorau a allesid eu dychmygu ac yn gwbl deilwng o'i awen, ac o'r tu arall y mae pob beirniad cymwys a di—ragfarn hyd yn oed ymhlith y Prwsiaid a'r Saeson yn addef bellach fod trefniadau Blücher a Wellington y rhai gwaelaf a allesid eu gwneuthur, ac nad oes fawr o ddiolch iddynt hwy am na ddinistriwyd eu byddinoedd yn llwyr ar yr unfed dydd ar bymtheg o Fehefin, ac am na buasai Napoleon drannoeth yn Brüssel yn ôl ei arfaeth. Yn un peth, yr oedd eu byddinoedd yn rhy wasgar— edig o lawer, ac am hynny ni ellid eu crynhoi ynghyd mewn byr amser. Peth arall, yr oeddynt yn sefyll yn rhy agos i gyffiniau Ffrainc, ac am hynny yr oedd yn rhaid iddynt ymgrynhoi megis o dan ynnau'r Ffrancod. Er bod cynllun Napoleon yn berffaith, ni allwyd ei gwblhau yn hollol, canys y diwrnod cyn i Napoleon groesi i wlad Belg fe ddarfu i ddau o'i brif swyddogion oedd yn eu calon yn bleidiol i'r Brenin Louis adael y fyddin a myned drosodd at y Prwsiaid a datguddio iddynt gymaint ag a wyddent o fwriad yr Ymherodr. Fe roes hyn gyfleustra i'r llu o Brwsiaid oedd yn gwylio'r cyffiniau o dan y Cadlywydd Ziethen i arafhau cerddediad y Ffrancod ar hyd y ffyrdd culion sy'n arwain i Fleurus, ac amser i Blücher i gasglu ynghyd