Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

88,000 o'i fyddin i ymyl pentref Ligny, yr hwn sydd o flaen Sombreffe. Fe ddanfonodd Blücher y newydd yn ddi-oed i Wellington, ac a ddymunodd arno frysio i grynhoi ei fyddin ac i ymwasgu at asgell dde ei fyddin ef gerllaw Ligny, er mwyn iddynt ill dau gydosod ar Napoleon. Ond ni fynnai Wellington gredu bod cyrch Napoleon yn y cyfeiriad hwnnw, ac am hynny ateb a wnaeth o na byddai'n ddiogel iddo orchymyn i'w filwyr ymdeithio tua Ligny hyd oni châi o chwaneg o sicrwydd. Fe ddanfonodd Blücher ato eilwaith i ddywedyd nad oedd dim amheuaeth nad oedd y rhan fwyaf o'r fyddin Ffrengig wedi croesi i Belg yng nghymdogaeth Charleroi, a'i fod ef yn bwriadu ei gwrthsefyll yn Ligny. Ar ôl derbyn y genadwri hon, fe orchmynnodd Wellington i ran o'i fyddin symud hyd i Nivelles, ond nid cyn belled â Quatre Bras a Ligny. Y mae'n ddiamheuol y buasai'n well gan Wellington oedi cyfarfod â Napoleon hyd oni buasai'r Ostriaid a'r Rwsiaid wedi cyrraedd Rhein. Ar ôl colli tair awr ar ddeg i betruso ac i ymesguso, fe roed math o orfod arno i symud yn nes at Blücher trwy i ddau gadlywydd tramor oedd yn ei fyddin, sef Saxe— Weimar a Perpoucher, gymryd saith mil o Felgiaid, Batafiaid, ac Ellmyn, o Nivelles heb ganiatâd Wellington, er mwyn meddiannu pedair croes-