Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddi ar yr unfed dydd ar bymtheg; ie'n wir, yn yr un sefyllfa yn union ag yr oedd y Prwsiaid ynddi ym mrwydr drychinebus Jena. Erbyn hyn, y mae agos pob sgrifennydd milwrol yn condemnio eu cynllun a'u cadlywyddiaeth, er eu bod yn addef bod llwyddiant yn cuddio lliaws o ddiffygion. Pa waeth, ebe un, eu bod wedi anghofio elfennau cyntaf milwriaeth—" though they blundered, they blundered into victory"; ac y mae'r fuddugoliaeth honno i'w phriodoli i ddaear laith Waterloo, ac yn bennaf oll i amryfusedd cadarn Grouchy.

Dychwelwn bellach at Napoleon. Erbyn iddo gyrraedd Quatre Bras, yr oedd byddin Wellington, oddieithr y gwŷr meirch, wedi myned ymaith. Fe ymlidiodd y Ffrancod ar ôl y rhai hyn hyd i Genappe ac ymhellach, ond ni allasent wneud llawer o niwed iddynt gan iddi ddyfod yn law taranau anghyffredin. Gwnaeth hwn y ffordd fel afon, a'r meysydd o'i deutu fel siglen. O achos yr anhawster i deithio yr oedd hi agos yn nos pan gyrhaeddodd y fyddin Ffrengig y tir llechweddog oedd yn wynebu gwersyllfa byddin Wellington ar ucheldir Mont St. Jean. Yr oedd hi o hyd yn glawio'n drwm, a pharhau i lawio a wnaeth hi hyd bump ar gloch y bore, fel y bu raid i'r milwyr, druain, orffwys ar y ddaear ddyfrllyd ynghanol yr