ŷd gwlyb. Fe gafodd y prif swyddogion le i ymlechu ym mhentref Planchenoit oedd o'r tu ôl i'r fyddin, ac yn yr ychydig dai oedd gyda'r ffordd fawr. Nid oedd cyflwr y cyfunoliaid yn llawn mor druenus, am eu bod hwy ar dir uwch a sychach, ac mewn ardal â mwy o dai ynddi. Heblaw hynny, yr oeddent hwy bellach yn agosach i'r storfeydd yn Brüssel, fel y cawsant hwy well swper a gwell borefwyd na'r Ffrancod.
Pan oleuodd bore tarthog y deunawfed dydd o Fehefin, fe welodd y Ffrancod eu bod yn gwersyllu ar lechwedd tua milltir a hanner ei hyd a oedd yn disgyn yn raddol i bantle nad oedd ond prin yn ddigon llydan i'w alw'n ddyffryn, nac yn ddigon dwfn i'w alw'n lyn. Yn gyfarwyneb â'r llechwedd, ac o du'r gogledd i'r pantle, yr oedd trum, yr hwn oedd uwch a serthach tua'i ben gorllewinol na thua'i ben dwyreiniol. Y pryd hwnnw, yr oedd o'n uwch o gryn dipyn, ac yn serthach o lawer, nag ydyw o'n awr ar ôl gwneud y domen sydd arno. Ar hyd ael y trum hwn, yr oedd magnelau'r fyddin gyfunol, ac mewn pant lled gysgodol y tu hwnt i'r magnelau yr oedd corff y fyddin. Yn rhedeg yn gyfochrol â llinell y magnelau, ychydig o'i blaen, yr oedd ffordd