Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gul a oedd y pryd hwnnw'n ddofn a gwrychiog, yr hon oedd i wasanaethu yn lle ffos i rwystro ac i anhrefnuso'r marchoglu ymosodol. O flaen pen gorllewinol y trum, sef o flaen asgell dde'r fyddin gyfunol, yr oedd Plas neu Gastell Goumont, a elwir weithiau'n Hougomont, yn cynnwys amryw adeiladau cedyrn, a pherllan, a choedwig; ac ynddynt yr oedd deunaw cant o Frytaniaid ac Ellmyn. Gyferbyn â chanol y fyddin rhwng pen a throed y bryn ac ar ymyl gorllewinol y ffordd fawr i Brüssel yr oedd fferm La Haye Sainte, yn yr hon yr oedd rhai cannoedd o Hanoferiaid. Gyferbyn ag asgell aswy'r fyddin yr oedd ffermydd Ter la Haye a Papelotte, yn llawn o filwyr Ellmynnig, Is-Ellmynnig a Belgaidd. Y mae'n amlwg i bawb fod sefyllfa'r fyddin yn un gadarn odiaeth, ac yn un anodd iawn i'w goresgyn mewn byr amser; ond y mae'r rhan fwyaf yn dweud ei bod yn sefyllfa anfanteisiol iawn i ymgilio ohoni pe digwyddasai i'r fyddin gael ei gorchfygu. Yr oedd milwyr Wellington wrth godi eu pennau uwchlaw'r trum a'r cloddiau yn gallu gweled holl fyddin Napoleon yn sefyll yn drefnus ar y llechwedd noeth a oedd o'u blaen; ac fe ddywedir na welwyd erioed fyddin harddach o ran gwisgiad ac arfogaeth. Yr oedd y fyddin cyn dechrau symud wedi ei threfnu'n dair llinell, y naill linell