y tu ôl i'r llall ac yn fyrrach na'r llall; fel yr oedd hi'n debyg ei llun i wyntell. Reille oedd yn rheoli'r asgell aswy, yr hon oedd gyferbyn ag asgell dde'r fyddin gyfunol o dan y Cadlywydd Seisnig Hill. D'Erlon oedd yn rheoli'r asgell dde, yr hon oedd gyferbyn ag asgell aswy'r fyddin gyfunol o dan Picton a Kempt. Napoleon ei hun oedd yn rheoli craidd neu ganol y fyddin, a'r Tywysog Oranje oedd yn rheoli craidd y fyddin gyfunol.
I'r rhai na welodd faes y frwydr, hwyrach y dyry darluniad Victor Hugo eglurach syniad amdano na'm darluniad i, ac na darluniad neb arall. Y mae o'n peri i'r darllenydd feddwl am y llythyren A, wedi ei rhoi i orwedd ar lawr â'i phwynt yn cyfeirio i'r gogledd. Y mae coes dde'r llythyren yn dynodi'r ffordd o Nivelles, a'i choes aswy yn dynodi'r ffordd o Genappe; y llinell groes sydd ar ei thraws yn dynodi'r ffordd gau rhwng pentref Ohain a Braine l'Alleud; blaen y llythyren yn dynodi Mont St. Jean lle'r oedd Wellington; pen y goes orllewinol yn dynodi Hougomont, a phen y goes ddwyreiniol yn dynodi La Belle Alliance lle'r oedd Napoleon. Ar ganol y llinell groes hon y bu'r ymosod mwyaf penderfynol, a cheisio ennill y sefyllfa dri—onglog oedd rhyngddi hi a blaen y llythyren oedd diben yr ymosod hwnnw. Dealler nad oedd y ddwy fyddin