Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyaf anturiaethus o ddynion mewn ychydig o eiriau, ond y fath hanes a ddarnguddir gan air neu ddau ohonynt weithiau. Y flwyddyn mewn siopau dillad yn Lerpwl er enghraifft. Ni allai byth deimlo'r un fath tuag at Saeson wedyn, oblegid yno y daeth i'w hadnabod yn eu rhinweddau a'u diffygion. Gwyddai hefyd nad oedd yn Gymro o waed coch cyfan, ac o'i fachgendod parodd hynny chwilfrydedd ynddo i ymgydnabyddu â byd mawr y Cyfandir. Trwy fyw yn y ddau le, sylweddolai fwyfwy fod rhan ohono'n perthyn i Ewrop, a rhan i Gymru. Brwydr am unoliaeth o'r rhannau gwerthfawr hyn oedd ei frwydr fewnol, ac o'r synthesis hon y cyfoethogodd fywyd ei wlad, trwy ledu ar orwelion rhai o'i meibion disgleiriaf o hynny hyd heddiw.

"Ordeiniwyd ef yn Sasiwn yr Wyddgrug yn 1883." Dyna frawddeg gynhwysfawr arall. Gorfu ar ei enwad o hir ddiwedd arddel profiad a gweledigaeth newydd ar ôl brwydr gas ar ran rhai o'i 'mawrion.' Bu grym argyhoeddiad, llwyredd gwasanaeth, a dichlynder cymeriad yn drech o'r diwedd na phen-wendid Sais-addolgar, snobrwydd, a diffyg hunanbarch a hyder cenedlaethol cefnogwyr y mudiad i godi capeli Saesneg ar draul Cymry mewn ardaloedd Cymreig.