"Bu'n byw yn Ninbych, Rhuthyn, Trefnant, a Rhewl." Hynny yw, fe roes ei orau i eglwysi ei gyfundeb yn Nyffryn Clwyd, gan adael swm ei gyflog, hyd yn oed, i anrhydedd yr eglwysi a fugeiliai mor ofalus. Troes ei gefn ar bob cyfle i ennill clod a chyfoeth a chymdeithas dysgedigion ar y Cyfandir, er cryfed y dynfa. Rhydd yr Athro T. Gwynn Jones yr hanes fel y bu iddo gael cynnig perchenogaeth ysgol yn yr Yswisdir ar delerau ffafriol iawn, ac wrth edrych yn ôl ar ei yrfa fe gofia Emrys am gyfle arall a wrthododd er mwyn Cymru a'r Efengyl:—
Yn wir, pan oeddwn i yn iau, ac yn ystwythach fy nhafod nag ydwyf yn awr, mi gefais gynnig tri chant o bunnau am weithredu fel corresponding secretary yn Belgrade, prifddinas Servia; a phe buaswn wedi derbyn y cynnig, hwyrach y buaswn erbyn hyn yn gonsul, ac ar y ffordd i fod yn llysgennad.
—Y Faner, Chwefror 27, 1895.
Nid un na dau ar lawr Dyffryn Clwyd heddiw sy'n barod i ddiolch iddo am y dewis a wnaeth. Ni cheisiodd ychwaith ennill ffafr arweinwyr ei enwad, ond eu gwrthwynebu'n gyndyn heb gyfrif y gost, pan welai fod achos, ac yn enwedig pan welai fod Cymru, ei hiaith, a'i chynhysgaeth feddyliol ac ysbrydol yn ddistadl neu'n eilbwys