yn eu golwg. Dioddefodd ei wawdio'n gyhoeddus am hyn, megis yng Nghymdeithasfa'r Gogledd yn Llanidloes yn y flwyddyn 1881, pan oedd Emrys o flaen ei 'well' am feiddio gwrthod ufuddhau i 'bull y Pab bach o'r Bala.' Dyma'r hanes fel y codwyd yn y Cofiant gan T.G.J.:—
Mr. Jones [wrth y Dr. Lewis Edwards a'r Gymdeithasfa]: Yr wyf yn meddwl y dylid caniatáu mesur o ryddid llafar gyda rhyddid barn, onide, nid yw y rhyddid i farnu o nemor werth. . . Yr wyf yn ymatal rhag ysgrifennu yn erbyn amryw bethau ag yr wyf yn anghytuno â hwynt, am fod y rhai hynny yn bynciau dadleuadwy, ac mewn pethau felly yr wyf yn ymostwng i farn y mwyafrif; . . Ond nid wyf i yn cyfrif ffyddlondeb neu anffyddlondeb i iaith yn bwnc dadleuadwy. Ni allwn i bleidio dim â thuedd ynddo i Seisnigo'r Cymry heb fyned yn erbyn fy argyhoeddiadau politicaidd. (Chwerthin.)
I Emrys, felly, yr oedd ei argyhoeddiadau ar fater llunio bywyd gwlad a chymdeithas yn gysegredig. Crechwen Cymdeithasfa Llanidloes oedd ateb y cyfnod pryd yr oedd unigoliaeth yn ben mewn byd ac eglwys fel ei gilydd. Caent hwy flas ar ganu "Duw, cadw f'enaid bach o hyd uwch sŵn y byd a'i ddrygau," ac yr oedd Emrys iddynt hwy yn siarad yn wirion am ei fod o flaen ei oes.
Eto nid am iddo wrthwynebu'r 'mawrion,' nac