am ei weledigaeth ar fywyd cymdeithas yn gymaint, y mae cynifer o bobl Dyffryn Clwyd yn barod i ddiolch amdano, ond am iddo ddewis aros yn eu plith a llafurio cystal gyda'r plant, sef had yr Eglwys. Na thybied neb mai dyn sur oedd, oblegid ni bydd plant byth yn hoffi dynion felly, ac y mae digonedd o brofion eu bod i gyd yn hoff o Emrys. Ymhell cyn bod sôn am ddysgu hygiene yn yr ysgolion, yr oedd ef wrthi yn eu dysgu yn Gymraeg i barchu'r corff, ac i wybod mwy amdano a'i anghenion, pwrpas y gwahanol rannau ohono, a'r modd i'w datblygu. A'r un gofal y gwrteithiai'r meddwl a'r ysbryd. Crefydd eang ddynol oedd ganddo, a'i neges i'r dyn yn gyfan, ac i gymdeithas a gwlad yn eu cyfanrwydd.
Lled-awgrymwyd gan ambell un yn ddiweddar mai Pabydd dirgel oedd. Gyda phob parch i'n brodyr Catholig, nid oes ganddynt unrhyw hawl iddo. Yn ei ddydd, fe'i cyhuddwyd ar goedd yn y Gymdeithasfa fod ei syniadau am natur a threfniant eglwys yn arwain i Annibyniaeth, ac yn ddiau yr oedd ef yn agos dros ben i'r ffin. Gwrthwynebai bob ymgais i "bresbytereiddio'r"[1] enwad trwy ganoli awdurdod ymhlith ychydig o arweinyddion
- ↑ Ef piau'r gair.