wrthsefyll y Prwsiaid oedd yn ymosod ar ei gefn a'i asgell aswy; a phan gyrhaeddodd y rhain i'r maes hanner awr wedi pedwar ar gloch fe fu raid iddo rannu ei fyddin yn ddwy—y naill i wynebu'r fyddin gyfunol o du'r gogledd, a'r llall i wynebu'r fyddin Brwsiaidd o dan Bülow. Y mae pawb yn cytuno yn hyn o beth, sef bod gan Napoleon fwy o farchogion ac o fagnelwyr nag oedd gan Wellington, a bod gan Wellington fwy o wŷr traed nag oedd gan Napoleon.
Y mae rhai yn beio ar Napoleon am na buasai fo wedi dechrau'r frwydr yn foreach, a cheisio dymchwelyd y fyddin gyfunol cyn i'r Prwsiaid ddyfod ar ei warthaf, ond y mae'r rhain yn anghofio nad oedd Napoleon ddim yn disgwyl y Prwsiaid; am nad oedd o wedi ei rybuddio eu bod yn agos gan y cadlywydd a ddanfonesid i'w gwylio. Gan ei fod wedi gorchymyn i Grouchy ymgadw mewn cymundeb ag asgell dde ei fyddin ef, yr oedd yn fwy naturiol iddo ddisgwyl Grouchy na disgwyl y Prwsiaid.
Yr oedd ganddo ddau reswm am oedi dechrau'r frwydr hyd yr hanner awr olaf o'r bore. Yn un peth: Gan fod miloedd lawer o'r milwyr oedd ym myddin Wellington wedi bod yn ymladd unwaith dan ei Faner ef, ac o hyd yn bleidiol iddo yn eu