Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

calon, yr oedd o'n disgwyl i'r rheini gilio ato; a chilio a wnaethent yn ddiau oni buasai i Wellington eu cymysgu â milwyr ffyddlonach. Peth arall; a dyma'r rheswm pwysicaf: nid oedd y tir wedi sychu digon i fod yn llawr cymwys i wŷr meirch ac i fagnelau symudol; a chofier mai yn y pethau hyn yr oedd nerth Napoleon; er y buasai'n well iddo wrth fwy o wŷr traed ar ddiwrnod fel hwnnw. Yr oedd hi, gan hynny, o fewn hanner awr neu lai i hanner dydd pan roes yr Ymherodr Napoleon arwydd i ddechrau'r frwydr.

Ei gynllun oedd cymryd yn gyntaf oll yr adeiladau diffynedig oedd yn sefyll o flaen y fyddin gyfunol, ac yna hollti ei chanol a throi ei hasgell aswy. Yr ydys yn cydnabod bod y cynllun cyffredinol hwn y gorau a allesid ei ddychmygu; ond yr ydys yn addef hefyd na ddangosodd Napoleon erioed cyn lleied o ynni a medr i weithio ei gynllun allan. Yr ydys yn cynnig tri rheswm am hyn. Y blaenaf yw bod Napoleon yn dibrisio medr ei wrthwynebwr Wellington trwy dybied y gallai fo'n hawdd orfod arno trwy nerth braich yn unig, heb ymdrafferthu i ystrywio dim. Yr ail yw, bod dyfodiad disymwth y Prwsiaid wedi drysu ei gynllun cyntaf, ac wedi ei demtio i ruthro ar y fyddin gyfunol cyn ei gwanhau yn ddigonol â thân ei fagnelau. Y trydydd yw, ei