fod yn rhy glaf i farchogaeth nemor er mwyn gweled â'i lygad ei hun pa beth yr oedd ei swyddogion yn ei wneud yng nghyrrau eithaf y maes. Y mae'n hysbys ei fod dros y rhan fwyaf o'r diwrnod hwnnw yn eistedd ar gadair rhwng La Belle Alliance a Rossomme, â'i bwys ar fwrdd a osodesid o'i flaen. [1] Oherwydd y pethau hyn, ni allodd Napoleon gyflawni ei holl fwriad. Ef a lwyddodd, y mae'n wir, i gymryd ffermydd Papelotte, Ter la Haye, La Haye Sainte; ac i feddiannu coedwig a pherllan a gardd Castell Hougomont hefyd; ond ni allodd o gymryd y castell ei hun, na'r ffermdy, na'r adeiladau eraill oedd ynglŷn ag ef; ac fe gollodd filoedd o filwyr wrth geisio ei gymryd. Gan fod Hougomont y pryd hwnnw yn guddiedig gan goed, nid oedd modd i Napoleon weled o'r fan lle yr oedd o pa mor gadarn oedd y lle. Pe na buasai fo'n dioddef cymaint gan glwyf y marchogion a dolur y garreg, diau y buasai fo wedi marchogaeth hyd yno, ac wedi atal ei filwyr penboeth rhag colli eu gwaed yn ofer, trwy orchymyn iddynt ymfoddloni ar gadw meddiant o'r goedwig a'r berllan, neu ynteu trwy orchymyn i Kellerman ddinistrio'r adeiladau â magnelau.
- ↑ "In some of the most critical and terrible moments of the Waterloo campaign he seems to have been scarcely able to keep himself awake."—Encyclopædia Britannica.