Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er y buasai meddiannu Hougomont yn fanteisiol iawn i Napoleon, ac yn ddinistriol i Wellington, eto nid oedd yr Ymherodr wedi meddwl am aberthu llawer o'i filwyr er mwyn ennill y lle; canys nid ar asgell dde Wellington yr oedd o'n bwriadu ymosod yn benderfynol, eithr ar ei asgell aswy, yr hon oedd yn wannach ac yn haws i'w chyrraedd. Yn unig er mwyn cuddio'i fwriad i ymosod ar yr asgell aswy y darfu iddo'n gyntaf oll ymosod ar Hougomont. Dau ar gloch yr oedd o'n bwriadu gwneud ym— osodiad penderfynol, ac yr oedd o'n hyderu y byddai fo wedi llwyr orchfygu Wellington erbyn tri. Ond pan oedd hi'n tynnu at un ar gloch, ef a wybu er ei syndod bod deng mil ar hugain o Brwsiaid o dan Bülow yn cyfeirio tua'i asgell dde. Drysodd hyn ei gynlluniau, a rhoes orfod arno i anfon deng mil o filwyr o dan y Cadlywydd Lobau i geisio atal yr adran gyntaf hon o fyddin Blücher rhag cyrraedd y maes. Yn lle gwneud ymosodiad penderfynol ar fyddin Wellington, ymfoddloni a wnaeth o bellach ar wneud cyfres o ruthriadau er mwyn ennill amser. Yn wir, nid oedd y frwydr o'i dechrau i'w diwedd fawr amgen nag ymgyrchiadau o du'r Ffrancod yn erbyn sgwariau'r fyddin gyfunol; magnelau'r fyddin hon, o'r tu arall, yn tanio arnynt pan fyddent yn dyfod, a'u marchogion yn rhuthro arnynt pan