Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymwthiodd y Prwsiaid o'r tu ôl i Napoleon trwy ymosod ar bentref Planchenoit fe fu raid iddo droi cwr ei asgell aswy yn hytrach tua'r de, fel yr oedd rhan o'i fyddin erbyn hyn â'i chefn at gefn rhan arall oedd yn ymladd yn erbyn Wellington. Er hyn oll, fe barhaodd y frwydr yn amhenderfynol hyd hanner awr wedi chwech, ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr y daeth yr ail adran o fyddin Blücher i'r maes, yr oedd rhagolygon Napoleon yn ddisgleiriach nag y buont ar hyd y dydd. Yn ystod yr oriau hyn fe gilgwthiwyd y Prwsiaid o Planchenoit dair gwaith —y drydedd waith hyd ymhell o'r maes. Rhoes hyn gyfle i Napoleon i ymosod yn ffyrnicach ar ganol byddin Wellington.

Pan oedd Napoleon wedi myned tua Planchenoit i arolygu'r ail ruthr yn erbyn y Prwsiaid fe ymosododd Ney hefo'r marchoglu ar fyddin Wellington; a hynny yn erbyn gorchymyn pendant yr Ymherodr i oedi ymosodiad penderfynol hyd oni byddai fo wedi cilgwthio'r Prwsiaid hefo'r gwŷr traed. Y canlyniad oedd na ellid ar y pryd gyfnerthu Ney â gwŷr traed. Fe wyddys mai peth colledus iawn, ac aneffeithiol hefyd, yw ymosod ar sgwariau hefo gwŷr meirch yn unig; ac o'r tu arall mai ymffurfio yn sgwariau ydyw'r peth gwaelaf oll i gyfarfod â rhuthr gwŷr traed, a phe buasai Ney wedi aros hyd.