Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oni ddychwelsai'r gwŷr traed o Planchenoit, ni thyciasai sgwariau Wellington ddim. Er i Ney beri i Napoleon ddigio wrtho am byth am ei fyrbwylltra yn aberthu cynifer o'r gwŷr meirch y buasai'n rheitiach eu harbed hyd yr awr olaf, eto yr oedd ei ymosodiad yn un mor ofnadwy fel na feiddiasai Wellington ddim sefyll yn ei erbyn, oni buasai ei fod yn gwybod bod yr ail adran o fyddin Blücher yn agos i'r maes. Yn yr ymosodiad hwn fe lwyddodd Ney i dorri llinell flaen y fyddin gyfunol, ac fe addefa'r Cadlywydd Kennedy a rhai Saeson eraill ei fod wedi gwneuthur cryn hollt yn yr ail linell, a hollt nid bychan yn y drydedd linell hefyd; fel nad oedd dim yn eisiau bellach ond gwŷr traed i wahanu'r fyddin gyfunol, ac i feddiannu'r ffordd i Brüssel. Fe lwyr ddarniwyd un o'r catrodau Seisnig; fe ddrylliwyd saith o'r sgwariau, ac fe yrrwyd yr adran Seisnig-Ellmynnig oedd dan lywyddiaeth Alten ar ffo hyd ar ffordd Brüssel. Yn y cyfwng peryglus hwn fe benderfynodd Wellington aberthu'r rhan fwyaf o'i wŷr meirch er cynorthwyo'i wŷr traed i dorri grym y Ffrancod; ond gan nad oedd gan un genedl y pryd hwnnw wŷr meirch a allai ddal ymhwrdd gwŷr meirch Ffrainc, fe wthiwyd Cumberland a'i farchogion yn anhrefnus i blith y floaduriaid a'r clwyfedigion oedd yn tagu'r ffordd