Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd hi'n nos pan daniwyd yr ergyd ddiwethaf ar faes y gad, canys fe safodd gwŷr y gard, sef yr hen warchodlu Ffrengig, ynghanol y rhyferthwy o elynion oedd yn eu hamgylchu; ac yn lle ymostwng, hwy a syrthiasant agos i gyd.

Nid oedd Ney gyda'r gwarchodlu hwn; er hynny, yr oedd o yn un o'r rhai olaf i gilio oddi ar fryn St. Jean. Er iddo wneud dau amryfusedd cadarn yn y frwydr hon, eto ef a brofodd y waith hon, fel y profasai fo lawer gwaith o'r blaen, mai efô oedd y dewraf o'r dewrion." Yr oedd ei gap yn dyllog a'i wisg yn garpiog gan fwledau, a'i gleddyf wedi ei dorri yn ei hanner. Yr oedd pump o feirch wedi eu lladd dano; ac er hynny, clwyfau ysgafn a gafodd o ei hun. Ar ôl colli ei holl wŷr ei hun, a gweled ohono fintai heb bennaeth arni yn cilio o'r maes, ef a redodd ati, ac a barodd iddi sefyll, gan ddywedyd Deuwch, fy ngharedigion, a gwelwch fel y gall Marsial Ffrengig farw." Gresyn na chawsai fo farw ar y maes yn hytrach na marw ym Mharis fel un a farnwyd yn euog o fod yn ffyddlonach i'w Ymherodr nag i'w frenin.

Er mai byddinoedd cymharol fychain oedd yn ymladd yn Waterloo, yr oedd y frwydr yn un waedlyd iawn. Y mae'r Prwsiaid eu hunain yn addef iddynt golli saith mil o wŷr. Y mae'r rhai