Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyaf diragfarn o'r hanesyddion milwrol Seisnig yn dywedyd i Wellington golli pymtheng mil neu un fil ar bymtheg o wŷr, a hanesyddion tramor yn barnu ddarfod iddo golli mwy na deunaw mil. Ni wyddys yn fanwl pa nifer o wŷr a gollodd Napoleon, am ddarfod i rai miloedd ohonynt fanteisio ar ei gwymp i ddianc adref heb roi dim cyfrif ohonynt eu hunain. Ond yr ydys yn tybied iddo golli pum mil ar hugain o leiaf, a chyfrif y lliaws a laddwyd ac a glwyfwyd wrth ffoi ar hyd ffordd Genappe. [1] Er nad oedd colled y Ffrancod fawr fwy, os dim, na cholled eu gwrthwynebwyr, eto yr oedd yn fwy o anffawd iddynt hwy golli pum mil ar hugain allan o un fil ar ddeg a thrigain nag oedd i fyddinoedd Wellington a Blücher golli tair mil ar hugain allan o gant a thri deg o filoedd. Pe collasai'r rhain gymaint arall ag a wnaethant, fe fuasai ganddynt yn niwedd y frwydr fwy o filwyr wedyn nag oedd gan Napoleon yn ei dechrau.

  1. Y mae tramorwyr, megis y Ffrancwr Thiers a'r Prwsiad von Damitz, yn taeru bod colled Napoleon yn Waterloo yn llai o rai miloedd na cholled ei wrthwynebwyr. Y mae Dr. Sloane, o'r tu arall, yn haeru darfod i'r Ffrancod golli 30,000, tra na chollodd y Cyfunoliaid fwy na 22,500. Gwell gennyf i dderbyn tystiolaeth y pleidiau eu hunain am eu colledion eu hunain na derbyn tystiolaeth eu gwrthwynebwyr. Felly yr wyf yn derbyn ffigur uchaf y Ffrancod am golled Napoleon, ffigur uchaf y Prwsiaid am golled Blücher, a ffigur uchaf Brytaniaid ac Americaniaid am golled Wellington.