Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

argyhoeddi corff y Cymry fod y Sais yn feistr tost, anghyfiawn, ag a fyddai i argyhoeddi'r annuwiol mai meistr felly yw'r diafol.

*

Y mae'n amheus gennyf a faidd y Twrc ei hun honni ei fod mor fedrus â'r Sais ar y gwaith o orthrymu. Dial disymwth a dychrynllyd, y mae'n wir, ydyw dial y Twrc. Daw i lawr fel cawod o law taranau—yn fras iawn, ond anfynych y dêl; a phan ddelo, nid hir y pery. Yn ddefni parhaus y disgyn camwri'r Sais; a chamwri pa un o'r ddau ydyw'r mwyaf anoddefadwy, tybed? Y mae'r Cymry, oblegid hir gynefindod, wedi myned i edrych ar y defni hyn fel peth mor angenrheidiol a bendithiol â gwlith y nefoedd. . . Aethom mor wasaidd fel yr ydym yn cymryd plaid gorthrymwyr estronol yn erbyn perthnasau sydd tan yr un ddamnedigaeth â ninnau. O! ein tadau dewrion, pa fodd y'ch wynebwn ym myd yr ysbrydoedd?

*

Y mae rhagor rhwng Protestaniaid a Phrotestaniaid, ac y mae rhagor hefyd rhwng Pabyddion a Phabyddion. . . O'r braidd na ddywedwn fod Pabyddion Iwerddon yn llai cul nag Ymneilltuwyr Cymru; canys edrycher gynifer o Brotestaniaid a etholant i'w cynrychioli yn y senedd. Os bydd